Myrddin ap Dafydd

Bardd cynganeddol a enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng
Nghwm Rhymni yn 1990 am ei gerdd ‘Gwythiennau’. Sefydlydd Gwasg
Carreg Gwalch, Llanrwst a golygydd y gyfres boblogaidd o gyfrolau
‘Cywyddau Cyhoeddus’.

Strict metre poet and winner of the Chair at the National Eisteddfod in
Cwm Rhymni in 1990 for his poem "Gwythiennau" ("Veins"). Founder
of Gwasg Carreg Gwalch Press, Llanrwst and editor of the popular series
of poetry anthologies Cywyddau Cyhoeddus.






Bae Caerdydd

Mae'n edrych yn wych; maen nhw
yn llawn o heip penllanw -
llun swel ydi'r hoff ddelwedd,
a'r gamp, meddant, yw creu gwedd
calendr glòs: cael un dwr glas
haeddiannol o brifddinas
dros hafren y beipen bòg
a lleuadau'r gwlâu lleidiog.

Ac yn siwr, mae dwr Caerdydd
gystal â llun: llun llonydd,
heb ordd yn nhonnau'i bae hi
na halen yn ei heli.

Pa wefr cael wyneb hyfryd
a'r dwr rhydd ar drai o hyd?
Rhowch le i fwy na drych o wlad,
rhowch im fwy nag edrychiad -
rhowch im ddydd y bydd y bae'n
llyn drwg ac yn llawn dreigiau.