Bobi Jones

Athro Emeritus mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, Prifysgol Cymru
Aberystwyth, awdur deg o gyfrolau o gerddi, tair nofel, saith casgliad
o storļau byrion, ynghyd ag astudiaethau mewn beirniadaeth lenyddol,
hanes llenyddiaeth ac ieithyddiaeth.

Emeritus Professor of Welsh Language and Literature, University of Wales,
Aberystwyth; author of ten volumes of poetry, three novels, seven collections
of short stories and many studies in literary criticism, history of literature,
and linguistics.






Nelly Sachs

Bardd o Iddewes: 1891-1970


Piciaist dy ffordd rhwng simneiau’r iaith Almaeneg,
Codi bricsen yma, bricsen draw.
Sengaist dros ei hadfeilion fel dryw - ar friwsion eira -
Na ddeallai rew.

Dest ti hyd enaid y llanast i lunio, o’th fethu
Ag amgyffred, dosturi. Dest
O’r chwarel chwerw gan dynnu trwc wrth d’ysgwydd
Yn llawn cerrig tost.

Heliaist hwy’n rhew, fel diemyntau go lwyd a galedwyd
Gan anadl gelyn Israel, i gael
Addurno’i gwersylloedd. Cynorthwyaist i’w hadeiladu
I ddirnad hwyl

Hil Eckart. Ond yno nid palas iā a luniaist
Eithr cutiau cynnes. Trwy’r bin
Sbwriel lle taflwyd y ddaear, mynnaist ei hadfer
Ar gyfer gweddill gwan.

Drwy ffenestri diganfod codaist odlau godidog
Tan grefftio o’u ffieidd-dra nenfydau gwych.
Troist ti ysgyrion eu dyheadau yn ddodrefn
Dan gloriau coch,

A gorwedd yno gyda’r gelyn claf diamgyffred,
Ymddiddan yno drwy’i udo mud,
A cheisio dysgu drwy waliau mai deall yr anneall
Fyddai caru’r holl fyd.